Cynllun Teithiau Rhatach i Bobl Ifanc Cymru – Telerau ac Amodau FyNgherdynTeithio.
1. Teitl y cynllun
Cynllun Teithiau Rhatach i Bobl Ifanc Cymru, y cyfeirir ato o hyn ymlaen fel ‘y cynllun’.
2. Brand y cynllun
Brand y cynllun ar gyfer unrhyw waith cyfathrebu cyhoeddus yw FyNgherdynTeithio.
3. Disgrifiad
Mae’r cynllun yn sicrhau bod pobl gymwys yn cael disgownt o 1/3 oddi ar bris y tocyn cyfatebol i oedolyn.
4. Cymhwysedd
Dim ond pobl gymwys a gaiff wneud cais, ac fe’u diffinnir fel a ganlyn:
- Pobl 16 i 21 oed (gan gynnwys yr oedrannau hynny), a
- Phobl y mae eu prif gartref yng Nghymru.
5. Ffiniau daearyddol
Mae’r cerdyn yn berthnasol i wasanaethau bws lleol sy’n gweithredu’n gyfan gwbl yng Nghymru, neu wasanaethau bws lle mae’r daith yn dechrau neu’n gorffen yng Nghymru. Gweler y Cwestiynau Cyffredin am ragor o fanylion).
6. Amseroeddgweithredu
Nid oes unrhyw gyfyngiadau ar yr amseroedd y gellir defnyddio’r cerdyn.
7. Mathau o deithiau
Nid oes unrhyw gyfyngiadau ar y mathau o deithiau y gellir defnyddio’r cerdyn ar eu cyfer.
8. Y disgownt a’r cyfyngiadau ar gyfer tocynnau
Bydd disgownt o 1/3 oddi ar bris y tocyn cyfatebol i oedolyn yn cael ei roi yng nghyswllt pob cynnyrch a phob tocyn y gellir ei brynu ar fysiau. Am resymau masnachol, gall gweithredwyr gynnig y disgownt yng nghyswllt cynnyrch nad oes modd ei brynu ar fysiau ond sydd ar gael mewn mannau megis swyddfeydd neu siopau teithio.
Mae'n bosibl na fydd tocynnau tymhorol neu docynnau hyrwyddo, y mae eu pris eisoes yn llai na phris tocyn cyffredin, yn rhan o’r cynllun.
9. Trosglwyddo’r cerdyn
Dim ond yr unigolyn y mae ei enw’n ymddangos ar y cerdyn a gaiff ddefnyddio’r cerdyn, ac ni ellir trosglwyddo’r cerdyn.
Bydd y cerdyn disgownt yn cael ei gymryd yn ôl os caiff ei gamddefnyddio / os caiff ei ddefnyddio gan unrhyw un ar wahân i ddeiliad y cerdyn, a gallai hynny arwain at achos troseddol.
Caiff cardiau teithio eu rhoi’n amodol ar delerau ac amodau’r cynllun. Bydd y cerdyn yn parhau’n eiddo i Lywodraeth Cymru.
10. Rhoi’r disgownt ar y bws
Bydd yn ofynnol i ddeiliad y cerdyn ddangos y cerdyn i’r gyrrwr er mwyn cael y disgownt perthnasol. Bydd yn rhaid i bobl nad ydynt yn gallu dangos cerdyn dilys dalu’r pris llawn i oedolyn.
Mae cynrychiolwyr cwmnïau bysiau’n cadw’r hawl i archwilio cardiau a / neu ofyn am wybodaeth ychwanegol i gadarnhau oedran deiliad y cerdyn.
Ni fydd y cerdyn teithio’n ddilys os caiff ei newid neu’i ddifrodi mewn unrhyw fodd.
Bydd yn ofynnol i ddeiliaid y cerdyn roi gwybod yn syth i FyNgherdynTeithio os caiff y cerdyn ei golli neu’i ddwyn neu os bydd yn ddiffygiol, er mwyn gallu ei ganslo a rhoi cerdyn newydd yn ei le.
11. Rheolau a rheoliadau
Bydd rheolau a rheoliadau pob cwmni bysiau’n berthnasol pan fydd unigolyn yn teithio gyda’r cerdyn.
12. Cyfnod y cynllun
Estynwyd y cynllun hwn i'r grŵp oedran 16-21 ym mis Rhagfyr 2018.
Bydd gan ddeiliaid y cerdyn hawl i fanteisio ar y disgownt nes y byddant yn cael eu pen-blwydd yn 22 oed.
13. Cyfnod ar gyfer gwneud cais
Gall pobl wneud cais am y cerdyn hyd at 10 diwrnod cyn eu pen-blwydd yn 16 oed, a chyn eu pen-blwydd yn 22 oed.
14. Rhoi cardiau
Ni fydd yn rhaid i’r defnyddiwr dalu am gerdyn yn ystod y cyfnod treialu.
Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr ddarparu llun lliw diweddar sydd o faint llun pasport. Caiff yr holl wybodaeth ei darparu’n ddidwyll gan yr ymgeisydd. Ni fydd y sawl y canfyddir eu bod wedi gwneud cais gan ddefnyddio gwybodaeth anghywir yn cael cerdyn, neu cymerir camau i ganslo cerdyn deiliaid presennol sy’n gweithredu’n dwyllodrus. Gellir erlyn unrhyw ddeiliad sy’n gweithredu’n groes i’r amodau hyn.
Bydd cardiau newydd / cardiau a roddir yn lle rhai sydd wedi’u colli neu’u dwyn yn cael eu rhoi cyn pen 10 diwrnod ar ôl cael ffurflen gais sydd wedi’i llenwi / gwybodaeth am gerdyn sydd wedi’i golli neu’i ddwyn. Ni fydd Llywodraeth Cymru yn atebol am ddisgownt tra bydd cais am gerdyn newydd neu gerdyn a roddir yn lle un sydd wedi’i golli neu’i ddwyn yn cael ei brosesu.
Bydd y cardiau yn parhau’n eiddo i Lywodraeth Cymru a dylid eu dinistrio pan fyddant yn dod i ben neu pan fydd y cynllun yn cael ei derfynu.
15. Newid cyfeiriad
Mae’n ofynnol i ddeiliaid y cerdyn roi gwybod i FyNgherdynTeithio am unrhyw newidiadau i’w prif gyfeiriad. Os yw’r cyfeiriad newydd y tu allan i Gymru, bydd y cerdyn yn cael ei ganslo a bydd yn rhaid ei roi’n ôl.
16. Eithriadau
Nid yw’r cerdyn yn ddilys ar wasanaethau trên na gwasanaethau bws pellter hir, ar wahân i wasanaethau TrawsCymru. Nid yw'n gweithio ar fysiau National Express a Megabus.
Nid yw’r cerdyn yn brawf o oedran neb.
Nid yw’r cerdyn yn rhoi’r hawl i unigolyn gael ei gludo ar unrhyw wasanaeth bws unrhyw bryd, ac nid yw’n gwarantu hynny, ac nid yw’n arwain at ddisgwyliad y bydd gwasanaethau cyfredol yn parhau neu y bydd gwasanaethau newydd yn cael eu darparu.
Ni fydd Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am unrhyw golledion neu ddifrod a ddioddefir wrth deithio gyda’r cerdyn.
Mae Llywodraeth Cymru yn cadw'r hawl i ddiwygio telerau ac amodau o bryd i'w gilydd a byddwn yn cyhoeddi unrhyw newidiadau ar ein tudalen Telerau ac Amodau.