Cysylltwch â ni drwy ffonio 0300 200 22 33

Ynglŷn â FyNgherdynTeithio

Beth yw FyNgherdynTeithio?

FyNgherdynTeithio yw'r prawf adnabod oedran y bydd ei angen arnoch i gael Teithiau Bws i Bobl Ifanc am brisiau gostyngol yng Nghymru os ydych chi rhwng 16 a 21 oed. Ceir rhagor o fanylion yma: mytravelpass.tfw.wales/gwneud-cais-am-y-cerdyn

Mae gen i FyNgherdynTeithio yn barod?

Os ydych chi rhwng 16 a 21 oed ac mae gennych chi FyNgherdynTeithio eisoes, rydych chi'n barod i elwa o'r Cynllun Teithiau Bws i Bobl Ifanc newydd ac nid oes angen i chi wneud dim byd pellach.

Pwy all wneud cais am FyNgherdynTeithio?

Gall unrhyw un rhwng 16 a 21 oed wneud cais am FyNgherdynTeithio waeth ble rydych chi'n byw yn y DU os ydych chi'n bwriadu defnyddio gwasanaethau bws yng Nghymru yn rheolaidd. Bydd eich tocyn yn ddilys tan eich pen-blwydd yn ddau ar hugain oed.

Ni ellir anfon FyNgherdynTeithio i gyfeiriadau y tu allan i'r DU. Os ydych chi'n fyfyriwr tramor sy'n dod i astudio yng Nghymru, dylech chi ddarparu cyfeiriad yn y DU y gellir postio'ch cerdyn iddo ac y gallwch chi ei gasglu ohono. Cysylltwch â'ch prifysgol neu goleg i weld pa drefniadau sydd ganddyn nhw.

Dim ond y person y mae'r cerdyn wedi'i gofrestru iddo ac y mae ei lun yn ymddangos ar y cerdyn all ddefnyddio FyNgherdynTeithio. Os bydd unrhyw un arall yn ceisio defnyddio'r cerdyn, yna bydd hyn yn cael ei ystyried yn dwyll, a bydd y cerdyn yn cael ei ganslo.

Sut alla i wneud cais am FyNgherdynTeithio?

Yn dilyn cyhoeddiad y cynllun newydd, rydym yn diweddaru ein systemau a bydd ceisiadau ar-lein ar gael o'r 21ain o Orffennaf drwy: mytravelpass.tfw.wales/cy/gwneud-cais-am-y-cerdyn

Pa brawf sydd ei angen arnaf i wneud cais am FyNgherdynTeithio?

I wneud cais, mae angen i bawb ddarparu:

  • llun lliw diweddar, maint pasbort, ohonynt ar eu pennau eu hunain.
  • cod post a chyfeiriad eu prif breswylfa (os nad ydych chi'n breswylydd yn y DU sy'n astudio yng Nghymru, dylai hwn fod eich cyfeiriad a'ch lleoliad yn ystod y tymor y gellir postio'r FyNgherdynTeithio iddo).

Bydd angen i chi hefyd ddarparu eich dyddiad geni. Efallai y bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth ychwanegol o'ch oedran os gofynnir amdani, ond dim ond os na all ein gwiriadau mewnol ei ddilysu y mae hyn yn berthnasol. Dyma dystiolaeth dderbyniol o oedran:

  • Pasbort
  • Trwydded Yrru
  • Tystysgrif geni

Bydd y manylion a ddarparwch ar eich cais yn cael eu cadarnhau gan drydydd partïon ar ran Llywodraeth Cymru i wirio pwy ydych chi a bod y wybodaeth a roddir yn gywir. Gweler y datganiad preifatrwydd am ragor o wybodaeth

Os bydd gwybodaeth ffug yn cael ei defnyddio, ni fyddwch yn cael cerdyn a byddwch mewn perygl o gael eich erlyn.

Pryd fydda i'n derbyn FyNgherdynTeithio?

Fel arfer, mae ceisiadau'n cymryd tua 3 wythnos i'w prosesu ond gallant fod ychydig yn hirach ar adegau prysur fel dechrau'r tymor. Os ydych chi wedi aros yn hirach na hyn, yna cysylltwch â ni ar 0300 200 22 33.

Pryd alla i wneud cais am FyNgherdynTeithio?

Gallwch wneud cais am FyNgherdynTeithio 10 diwrnod cyn eich pen-blwydd yn 16 oed (neu unrhyw bryd rhwng eich pen-blwydd yn 16 oed a'ch pen-blwydd yn 22 oed).

Bydd eich cerdyn FyNgherdynTeithio yn dod i ben ar eich pen-blwydd yn 22 oed ac ni fydd eich cerdyn yn ddilys ar ôl y dyddiad sydd wedi'i argraffu ar y cerdyn.

Faint mae FyNgherdynTeithio yn ei gostio?

Mae FyNgherdynTeithio am ddim ac ni fydd Trafnidiaeth Cymru na Llywodraeth Cymru byth yn gofyn am daliad na manylion talu fel rhan o'r broses ymgeisio.

Beth os byddaf yn colli FyNgherdynTeithio?

Os ydych chi rhwng 16 a 21 oed ac na allwch chi gyflwyno FyNgherdynTeithio i'r gyrrwr wrth fynd ar y bws, gofynnir i chi dalu'r pris llawn ar gyfer tocyn oedolyn am y daith honno.

Mae modd cael cardiau newydd drwy gysylltu â ni ar 0300 200 22 33

Beth os nad ydw i'n edrych fel y llun ar FyNgherdynTeithio mwyach?

Rhowch wybod i ni ac anfonwch lun newydd atom drwy e-bost gyda manylion eich FyNgherdynTeithio presennol, gan gynnwys rhif y cerdyn. Yna byddwn yn ailgyhoeddi eich cerdyn gan ddefnyddio'r llun newydd.

A ellir canslo FyNgherdynTeithio?

Gellir canslo eich cerdyn FyNgherdynTeithio os gwnaethoch chi ddarparu gwybodaeth anghywir ar eich ffurflen gais neu os ydych chi'n camddefnyddio'ch cerdyn. Os oes tystiolaeth eich bod chi wedi bod yn anghwrtais neu'n ymosodol tuag at deithiwr arall neu yrrwr, mae'n debygol y bydd eich tocyn yn cael ei ganslo, a gallech gael eich gwahardd o wasanaethau'r gweithredwyr neu hyd yn oed eich erlyn.

Faint mae'n ei gostio i ffonio FyNgherdynTeithio ar 0300 200 22 33?

Codir tâl am alwadau i FyNgherdynTeithio ar gyfradd leol ac maent wedi'u cynnwys mewn unrhyw fwndeli galwadau am ddim a allai fod gennych ar eich contract ffôn symudol neu linell dir.

Beth os nad yw testun neu ddyluniad y ffurflen gais yn addas i mi?

Os oes angen ffurflen gais neu ragor o wybodaeth arnoch mewn fformat arall - fel ffont mwy, Braille neu sain, yna ffoniwch FyNgherdynTeithio ar 0300 200 22 33 neu anfonwch e-bost atom drwy mytravelpass@tfw.wales

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×