Cwcis y Wefan
Yn MyTravelpass mae ein gwasanaethau'n defnyddio cwcis i wella perfformiad a chyflymder y gwasanaeth i'n cwsmeriaid.
Beth yw Cwci?
Mae cwci yn ffeil testun bach sy'n cael ei gosod ar eich cyfrifiadur gan wefannau rydych chi'n ymweld â nhw. Fe'u defnyddir yn helaeth er mwyn caniatáu i wefannau weithio'n fwy effeithlon, yn ogystal â darparu gwybodaeth i berchnogion gwefannau.
Optio allan o ddefnydd cwcis
Os ydych chi am reoli pa gwcis rydych chi'n eu derbyn, gallwch osod eich porwr i dderbyn pob cwci neu i'ch rhybuddio bob tro y bydd gweinydd gwefan yn cynnig cwci. Mae'r rhan fwyaf o borwyr yn derbyn cwcis yn awtomatig. Gallwch osod opsiwn ar eich porwr fel na fyddwch yn derbyn cwcis a gallwch hefyd ddileu cwcis presennol o'ch porwr. Efallai y gwelwch na fydd rhai rhannau o'r wefan yn gweithio'n iawn os ydych wedi gwrthod cwcis. Mae'r rhan fwyaf o borwyr gwe yn caniatáu rhywfaint o reolaeth dros y rhan fwyaf o gwcis trwy osodiadau'r porwr. I gael gwybod mwy am gwcis, gan gynnwys sut i weld pa gwcis sydd wedi'u gosod a sut i'w rheoli a'u dileu, ewch i www.allaboutcookies.org.
Byddwch yn ymwybodol, os nad ydych yn dewis gosodiadau eich porwr, byddwch yn derbyn cwcis a ddarperir gan y wefan hon.
Am ba hyd y bydd fy data yn cael ei storio?
Bydd manylion a roddwch wrth gofrestru am docyn yn cael eu storio nes i chi benderfynu dad-danysgrifio o'n e-byst, dileu eich manylion neu chwe mis ar ôl eich pen-blwydd yn 22 oed neu chwe mis ar ôl i'r cynllun ddod i ben, pa un bynnag sydd gyntaf.
Wrth anfon adborth atom drwy mytravelpass@tfw.wales â ni, bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu tynnu o'n system cyn gynted ag y byddwn wedi ymdrin â'ch adborth.