Cynllun Teithiau Bws Llywodraeth Cymru i Bobl Ifanc
Beth yw Cynllun Teithiau Bws Llywodraeth Cymru i Bobl Ifanc?
O 1 Medi 2025 ymlaen, mae Llywodraeth Cymru yn ariannu cynllun sy'n cyflwyno disgowntiau newydd ar deithiau bws i bobl 16 i 21 oed ar wasanaethau bws cofrestredig sy'n rhan o'r cynllun, yn unrhyw ran o Gymru, ac ar rai gwasanaethau trawsffiniol, am y prisiau canlynol:
- Unffordd - £1.00
- Tocyn Dydd - £3.00 (teithio diderfyn ar wasanaethau bws sy'n rhan o'r cynllun)
Yn ogystal â hyn, bydd yr holl ostyngiadau presennol ar gyfer y tocynnau canlynol yn dal i fod yn berthnasol.
- Tocynnau Wythnos - gostyngiad o draean
- Tocynnau Misol - gostyngiad o draean
- Tocynnau Tymor/Blwyddyn Academaidd - gostyngiad o draean
- Tocynnau Blynyddol - gostyngiad o draean
Dangosir rhestr lawn o'r gweithredwyr bysiau sy'n cymryd rhan yn y cynllun isod. Dim ond ychydig o wasanaethau, fel bysiau nos pris premiwm a bysiau City Sightseeing, na fydd yn cynnig y prisiau gostyngedig nac yn derbyn Tocynnau Diwrnod. Nid yw'r prisiau gostyngedig ar gael ar wasanaethau coets a weithredir gan National Express, Megabus na Flix Bus. Cysylltwch â'r cwmni bysiau cyn i chi deithio os ydych yn ansicr.
Gweithredwyr Bysiau sy'n Cymryd Rhan
Bydd y gweithredwyr bysiau canlynol yn gwerthu ac yn derbyn tocynnau’r Cynllun Teithiau Bws i Bobl Ifanc:
Mae gweithredwyr bysiau ledled Cymru wedi croesawu'r cynllun prisiau newydd, ond mae cymryd rhan yn wirfoddol. Rhagwelir y bydd y rhan fwyaf o weithredwyr bysiau (y mae'r rhan fwyaf ohonynt eisoes yn cynnig gostyngiadau Fy Ngherdyn Teithio) yn rhan o'r cynllun newydd a byddwn yn cyhoeddi rhestr lawn yma cyn 1 Medi.
Pwy all ddefnyddio'r Cynllun Teithiau Bws i Bobl Ifanc?
Mae pob person 16 i 21 oed yn gymwys ar gyfer prisiau'r Cynllun Teithiau Bws i Bobl Ifanc, ond rhaid i chi gael FyNgherdynTeithio i brofi eich oedran i yrrwr y bws wrth brynu tocyn.
Os nad oes gennych chi FyNgherdynTeithio eisoes, gallwch wneud cais am gerdyn yma mytravelpass.tfw.wales/cy/gwneud-cais-am-y-cerdyn o ddydd Llun 21 Gorffennaf.
Mae gen i FyNgherdynTeithio yn barod.
Os ydych chi rhwng 16 a 21 oed ac mae gennych chi FyNgherdynTeithio eisoes, rydych chi'n barod i elwa o'r Cynllun Teithiau Bws i Bobl Ifanc newydd ac nid oes angen i chi wneud dim byd pellach.
Ble alla i brynu tocynnau bws i Bobl Ifanc am brisiau gostyngol?
Gellir prynu tocynnau bws i Bobl Ifanc am brisiau gostyngol ar y bws gan y gyrrwr wrth fynd ar y bws neu, lle bo'n briodol, drwy apiau tocynnau ar eich ffôn symudol. Ni allwch ddefnyddio Tap Ymlaen/Tap Ymadael na’r system taliadau wedi'u capio ar hyn o bryd, er ein bod yn gobeithio cyflwyno hyn yn y dyfodol wrth i ni ddatblygu'r cynllun ymhellach.
Os ydych chi'n defnyddio ap ar eich ffôn i brynu tocyn, efallai y bydd angen i chi gofrestru eich FyNgherdynTeithio cyn y gallwch chi brynu tocynnau am brisiau gostyngol a bydd angen i chi gyflwyno'r FyNgherdynTeithio i'r gyrrwr pan fyddwch chi'n mynd ar y bws.
Mae yna hefyd rai cyfyngiadau ar ddefnyddio tocynnau unffordd a brynir trwy apiau ffôn symudol gan mai dim ond ar wasanaethau sy'n cael eu gweithredu gan y cwmni bysiau a werthodd y tocyn unffordd i chi y gellir defnyddio'r rhain.
Nid yw'r cyfyngiad hwn yn berthnasol i Docynnau Diwrnod a brynwyd ar ap ac y gellir eu defnyddio ar unrhyw wasanaeth bws yng Nghymru sy'n cymryd rhan.
A allaf gael gostyngiad i Bobl Ifanc ar wasanaethau bws y tu allan i Gymru?
Gallwch, cyn belled â bod eich taith fws yn dechrau neu'n gorffen yng Nghymru, byddwch wedi'ch cynnwys yn y cynllun hyd at ac o'r safle bws cyntaf yn Lloegr neu ar rai gwasanaethau hyd at ddiwedd y llwybr.
Beth os nad oes gen i FyNgherdynTeithio neu os byddaf yn ei golli?
Os ydych chi rhwng 16 a 21 oed ac na allwch chi gyflwyno eich FyNgherdynTeithio i'r gyrrwr wrth fynd ar y bws, gofynnir i chi dalu'r pris llawn ar gyfer tocyn oedolyn am y daith honno.
Gellir cael tocynnau newydd drwy gysylltu â ni ar 0300 200 22 33
Oes gostyngiad ar docynnau trên?
Dim ond i deithio ar fysiau yng Nghymru y mae'r Cynllun Teithiau Bws i Bobl Ifanc yn berthnasol.
Your browser is out-of-date!
Update your browser to view this website correctly. Update my browser now