Datganian Hygyrchedd
Mae’r datganiad hwn yn berthnasol i gynnwys a gyhoeddir ym mytravelpass.tfw.wales
Mae gwefan FyNgherdynTeithio, mytravelpass.tfw.wales, wedi ymrwymo i sicrhau ei bod hi’n hygyrch i’r holl ddefnyddwyr, gan gynnwys i unigolion ag anableddau. Mae datganiad hygyrchedd ar gael sy’n manylu ar gydymffurfiant â’r Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We 2.2.
Caiff y wefan hon ei rhedeg gan TrC. Bwriedir iddi gael ei defnyddio gan gymaint o bobl ag sy’n bosibl.
Dylai’r testun fod yn glir ac yn hawdd ei ddeall. Dylai fod modd i chi:
- Chwyddo maint y testun i hyd at 300% heb unrhyw broblemau.
- Llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig.
- Newid y dudalen i fodd cyferbynnedd uchel, modd graddlwyd neu fodd lliwiau gwrthdro.
- Defnyddio’r cyfleuster darganfod dolenni cyswllt i ddod o hyd i bob dolen gyswllt sydd ar y dudalen, drwy faes dewis syml. Mae gan AbilityNet gyngor ynghylch gwneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.
Problemau â Hygyrchedd a nodwyd
- Cyferbyniad Delweddau: Mae cyferbyniad isel rhwng lliwiau’r testun a’r cefndir ar rai delweddau a all effeithio ar ansawdd darllenadwy i ddefnyddwyr â nam golwg.
- Testun Amgen ar gyfer Delweddau: Mae diffyg testun amgen addas ar gyfer rhai delweddau sy’n ei gwneud hi’n heriol i raglenni darllen sgrin drosglwyddo neges i ddefnyddwyr dall neu â golwg gwan.
Cynllun Cyweirio
Mae’r gweinyddwyr gwefan wedi cydnabod y problemau hyn ac maent yn bwriadu dod i’r afael â nhw erbyn mis Ebrill 2026. Mae hyn yn cynnwys gwella cyferbyniad delweddau a darparu testun amgen addas ar gyfer yr holl ddelweddau i gydymffurfio â meini prawf Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We 2.2.
Manylion cyswllt
I ddefnyddwyr sy’n wynebu rhwystrau i hygyrchedd neu sydd arnynt angen cymorth, gellir dod o hyd i ffurflen gyswllt a llinell gymorth ar 0300 200 22 33. Fel arall, e-bostiwch mytravelpass@tfw.wales neu ysgrifennwch at Canolfan Gyswllt Cymru, Blwch Post 52, Penrhyndeudraeth LL49 0AU. Rydyn ni’n ceisio ymateb i adborth o fewn 5 diwrnod gwaith.
Casgliad
Er bod gwefan FyNgherdynTeithio wedi nodi heriau hygyrchedd penodol, mae ymdrechion ar waith er mwyn unioni’r problemau hyn. Mae monitro a diweddaru parhaus yn hanfodol i sicrhau bod y platfform yn parhau i fod yn hygyrch i’r holl ddefnyddwyr.
Cafodd y datganiad hwn ei baratoi ar 16 Medi 2024.